Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

modfedd-ar-ugain o lêd, a deunaw modfedd ar draws hyny; y mae dwy golofn fer dan y ddwy law wedi cael eu llunio yn hardd, ac yn mesur pumtheg modfedd o hyd; y mae pump o ffyn caboledig yn y ddwy ochr yn dal ei breichiau, a naw o rai prydferth eraill yn osodedig dan y cefn. Cafodd ei gwneuthur o'r derw goreu, a dengys fod y gofal mwyaf wedi cael ei wneyd o honi; oblegyd canfyddwn, wrth sylwi yn fanwl, ei bod wedi cael ei hadgyweirio mewn manau darn wedi cael ei roddi i fewn yn y fan hon, a darn yn y fan arall; ond y mae celf a derw yr hên oesoedd yn ddigon amlwg ynddi er hyny. Eiddo Col. Wynne Finch ydyw yn awr, yn Cefnammwlch, a dywedir wrthym mai Čadair Llewelyn Ap Gruffydd yw.

ANO. DNI 1688.-Dyma'r flwyddyn y Cyssegrwyd y Gwir Barchedig Edmund, mab John Griffith, o Gefnammwlch, yn Esgob Bangor, yn ol ei Achlen ei hun.

HEN DDODREFNI LLAN ENLLI ydynt yn awr yn Eglwys Llanengan.

BWRDD CYMMUN Bodfuan sydd faen mynor, wedi ei gymmeryd o graig yn Sir Fôn, yn ol tystiolaeth Mr. Kennedy, pensaer (architect) Esgobaeth Bangor, ac y mae pysgod wedi ymgarregu i'w gweled yn y clawr, yr hyn sydd brawf, fel y gŵyr y Daearegwr, fod Môn Mam Cymru wedi bod unwaith dan ddwfr.

"TYDDYN LAGO."-Yma ym "Mach Cilan" y saif rhan o'r hên Fynwent a ddefnyddid yn yr oesoedd sydd wedi myned heibio i gladdu y meirw fuasent wedi boddi yn y môr peryglus gerllaw. Cludwyd llawer o honi ymaith gan donau trochionog y weilgi, yr hyn fu yn achlysur i rai ddarganfod gweddillion dynol yma o bryd i bryd. Yn ymyl, ar lan afonig y Wenffrwd, cafwyd arch hynod erys ychydig flynyddau