ap Rhisiart, ap Tomas, ap Robert, ap Rhisiart, ap Cynfrig, ap Bleddyn.
Wrth gofio nad yw talaeth Lleyn ond 61,500 erw o dir, nid ydym yn credu y gall un llecyn yng Nghymru ymffrostio mewn cynnifer o enwau mor urddasol o fewn unrhyw gymmydogaeth arall o'r un mesur.
Ardderchog Golofn y Talentau.
OS oes syniad yn cael ei goleddu etto yn rhyw barthau anghysbell o'r wlad, mai lle tra dibwys, tywyll, hwyrdrwm, a diarebol ddinod yw Lleyn, cofier mai camgymmeriad dybryd ydyw. Fel y cenfydd yr ystyriol oddiwrth y ffigyrau a osodwyd i lawr yn barod, nid yw y dalaeth hon, wrth fesur, ond cymhariaethol fechan; er hyny, codwyd yma ddim llai na phedwar o Esgobion, sef y Gwir Barchedigion Richard Fychan, D.D., o Nyffryn, yr hwn oedd gynnorthwywr i'r Esgob Morgan i gyfieithu y Beibl i'r iaith Gymraeg; Edmund Griffith, D.D., o Gefnammwlch; William Hughes, D.D., mab Huw, ap Cynric, o Leyn, a pherthynas i'r Esgob Fychan; ac yn olaf, yr "Esgob Rowlands" fel yr adnabyddir ef, sef Henry Rowlands, D.D., o Feyllteyrn, heb son am yr Esgob Humphreys o'r Gesail, a'r Esgob Evans o'r Plas Du, cymmydogion agos, ar bwys y cyffiniau, y rhai ydynt yn gwneuthur i fyny y rhif rhyfeddol chwech Esgob genedigol o'r un gymmydogaeth!! Nid ydym yn gwybod am un ardal arall yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, na'r Iwerddon, a all ymffrostio ei bod wedi codi chwech o esgobion.
Brodorion hefyd o Leyn, a myfyrwyr o hen ysgol orenwog Bottwnog ydyw y Parch. G. W. Griffith, Rheithor Gaerwen, Llanfihangel Ysgeifiog; y Parch. G. Roberts, Canon Eglwys Gadeiriol, Llandaf; y