Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysboncio, ac yn cyndynu; etto, rhwng bodd ac anfodd yn atteb, "Ychydig;" a'i reswm dros attebiad felly fyddai, "bod y wlad ym mhell oddiwrth bob canolbwynt trafnidiaethol, ac yn dra anghyfleus i'r bobl hyny ydynt yn ymdrin a masnach y byd yn ei helaethrwydd;" ac oddiar farn heb wybodaeth, y mae y dychymyg yn dra chywir drwy ddigwyddiad, oblegyd nid oedd holl boblogaeth Lleyn ond 17,543 yn 1888, ac nid yw fawr mwy yn bresennol. Etto, a chymmeryd ffeithiau hanesyddol i ystyriaeth, byddem yn disgwyl cael trigolion y wlad hon yn lluosog iawn; oherwydd fel y dangoswyd eisoes, rhaid i'r lluaws a ffoisant yma o Gantref y Gwaelod ychwanegu nifer y trigolion, ac nid gwiw dychymygu nad oedd tiriogaeth ffrwythlawn fel hon yn ddibobl ar y pryd, oblegyd fe'u gelwid hwy yn Ganganiaid ym mhell cyn hyny. A pheth arall, rhaid i ni gofio fod ugeiniau, os nad miloedd o bobl yn dyfod unwaith o wahanol barthau o Ynys Prydain, ac o wledydd eraill hefyd i'r rhan yma o'r ddaear, pan yr oedd Crefydd Enlli yn ei blodau, yr hyn sydd yn ein harwain i gredu y buasai y boblogaeth yn cynnyddu, ac yn myned yn lluosocach na'r cymmydogaethau hyny lle nad oedd y fath atdynfa. Gan hyny, fel y tystiolaetha eraill, y farn fwyaf tebygol ydyw fod trigolion yr ardaloedd yma un adeg yn lluosog anghyffredin. Os felly, Pa sut y gallwn roddi cyfrif am y lleihad? Gadawer i ni ynte wneuthur archwiliad i fewn i'r pwnc hwn.

Erys blynyddoedd lawer yn ol, yr ydym yn darllen am newyn enbyd yn y parthau hyn. Ychydig mewn oes o ddigonolrwydd fel hon a allwn ni ddychymygu am ddyfnder trueni o'r fath yma. Rhwymau Orion a Phleiades wedi eu dattod. Hinon Haf wedi dyrysu. Ffenestri llidiog y nefoedd yn arllwys eu cynnwysiad. Y ddaear yn nacâu rhoddi ei chnwd. Dyn ac anifail yn gwywo ar eu traed. Y plant yn llefain am fara heb fara i'w gael, ac angau ar dde ac ar aswy yn medi i lawr. Fel hyn, yn ddiamheu, yr ysgubwyd