llaweroedd o'n cyndadau i'r byd mawr tragwyddol. Pa le y mae ein diolch am ein "bara beunyddiol?" Fel rheol, olynydd newyn ydyw haint; ac felly y bu yma. Os gwaghäodd y blaenaf yr ysguboriau a'r cwpbwrdd, gan wneuthur difrod ar iechyd a bywyd, fe wnaeth yr olaf lawer bwlch yn y teulu, os nad ysgubodd deuluoedd cyfain, o'r gweddill a adawyd. Rhybudd ydyw hwn, "a'r byw a'i gesyd at ei galon;" canys fe ddywedir mai am eu pechodau yr ymwelodd Duw â hwy gyda'r fflangell ofnadwy hon.
Ar ochr mynydd y Rhiw gyferbyn â Bryncroes, ac oddeutu y ffordd sydd yn arwain i Sarnfeyllteyrn, yr oedd tref o'r enw DINDYWYDD, yn sefyll ar bump neu chwech erw o dir, os nad rhagor, ac nid oes ond olion o'i bodolaeth yn awr. Anhawdd dyfalu faint allasai fod rhif y trigolion, ond gallwn dybied oddiwrth faint dref eu bod yn llawer. Beth bynag am hyn, aethant i "ffordd yr holl ddaear," ac nid oes erbyn heddyw ond ychydig gaeau yma, y rhai a ymddangosant fel gerddi, ac eithrio rhyw ychydig o dai. Enw un o honynt yw Brondywydd, ac fe elwir un arall yn Pen-y-dref. Y mae traddodiad ar lafar gwlad i ryw hen brydydd unwaith gyfeirio ei draed tua'r dref hon, gan grefu o dŷ i dŷ ar ei thrigolion am ddangos eu llettygarwch iddo dros y nos, iddynt hwythau un ac oll wrthod, ac iddo yntau mewn dial felldithio y dref fel yr aeth ar dân! Rhoddir i ni englyn y melldithiad, a chan ein bod yn sicr na fydd yn foddion i felldithio yr un dref rhagllaw, os bu neb mor ffol a chredu hyny yn y gorphenol, rhoddwn ef i lawr:
"Dinas sy fry ar y fron—ag ynddi
Gannoedd o drigolion,
I'r ulw hyll yr elo hon,
A diango dŷ eingion."
Wrth reswm nid ydym yn gyfrifol am gywirdeb yr englyn mall hwn (heb son am ei gynghanedd), ac yn ddilys ddigon y mae fel cyfansoddiad yn sicr o fod gannoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach na'r am-