Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Awyr (miselta) i addurno ei ebyrth. A chan fod genym hefyd ddigon o olion Derwyddiaeth yn Lleyn, yr ydym o hyd yn cadarnhau ein gosodiad. Dywed y Proff. J. Rhys mai ystyr y gair yw "Kalti"=pwyofel-gôf. Ond ai tybed fod y Gorddwyr hyn wedi dyfod i'r parthau yma? A bod olion eu Gwersyllfa tucefn i Meillionydd? Nid oes ond gwneuthur archwiliad a dyr y ddadl. Gŵyr yr hwn sydd yn gwybod rhywbeth am hanesiaeth ei wlad fod pobl Gogledd Cymru yn cael eu galw yn "Gordofigion" "Ordovices." Bum am flynyddau yn gweinidogaethu mewn plwyf yn agos i Gaer-yn-Arfon, o'r enw Llandinorwig=Llan-Dinas-Orddwig (Din-"Ordovic," sef Llan Amddiffynfa-Gordofigion. Ond beth drachefn yw ystyr y gair "Gordofigion ?" Os edrychir "Duppa's Johnson's Tour in N. Wales," p. 198, fe welir fod yr enw uchod yn cael ei ysgrifenu "Dinorddwig"-Amddiffynfa, a Gordd=Kelt. Cawn fod Cantref y Gwaelod yn cael ei galw hefyd Cantref Orddwy Gordd(wyr)=Celt(iaid). Dyma ni o'r diwedd yn Lleyn, ac yn gweled, ïe, yn cymmeryd gafael yn yr un ffeithiau, gan eu cyflwyno yn ostyngedig i ystyriaeth ein Cenedl.

Heb son fod un o'n hawdwyr goreu yn y Geltaeg yn dweyd fod yr enw Lleyn lagin-i, neu Llaen=lagin-a, fel y mae genym etto yn y gair Lein(ster) yn golygu gwaywffyn, neu wŷr-y-gwayw ffyn, yr hyn sydd yn ymylu at yr ystyr uchod, ni a awn ym mlaen i ddangos y berthynas sydd rhwng y Gorddwyr crybwylledig â Gwersyllfa Geltaidd tir Meillionydd.[1] Yma y mae ymofyniad yn codi, Ai'r Celtiaid oedd

  1. Er olrhain y gair Celt fel yna yn y dansoddol (abstract), etto, âg edrych arno yn yr ansoddol (concrete), diau fod perthynas nes na'i wisg rhyngddo â CEL (yn cel-sus), yn ogystal a CEL yn Cel-yddon, collis, hill,' κολωνος, Gallus, Gallia, Gwalia, Gaul, Gael, Gai(d)ill, Bala, balla, wal, valeo, Germ-walten, gallu, vallum, moel, fell, FOEL=Amddiffynfa, lle yr oedd canolbwynt=corona=coron eu holl weithrediadau. Gweler C-h-K=G=B=w=v=m=F. Golygwn t, yn yr ystyr yma, yn nherfyniad Celt, yn perthyn i'w blygfa (flexion).