Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gosodiadau. Y mae yn wir y gallasem ffurfio celfenw tra gwahanol o ran gwisg ieithyddol, trwy roddi Amddiffynfa yn lle Gwersyllfa, a Phrydeinig yn lle Celtaidd, a Cheltig yn lle Celtaidd, sef y terfyniad ig=perthyn yn lle yr ôl-ddodiad aidd=tebyg; ond yn gymmaint ag mai mwy o gyfiawnder a'r gwirionedd yn ei gyfanswm ydyw yr uchod, ni a wnawn ddefnydd o hono hyd nes y cawn ei well.

Ar fryn, mewn cae tucefn i dŷ Meillionydd, y mae yr hen Wersyllfa, a ddesgrifir genym yn awr gyda'r ansoddair Geltaidd, yr hon sydd yn dwyn ar gof i ni hen Wersyllfa Geltaidd arall gyffelyb iddi a welsom ar ben bryn, hynod o debyg o ran ei ffurf i'r bryn dan sylw, ond fod hwnw ychydig yn fwy, heb fod ym mhell o Cheltenham, sef, "ham"="home"=cartref y "Celtiaid." Terfyniad yn y rhifeb luosog yw "en" fel y gwelir yn "oxen" a "children." Rhai a feddyliant fod yr enw wedi ei gymmeryd oddiwrth yr afonig Chelt sydd gerllaw, yr hon a ymarllwysa i'r Hafren yn Wainlode=Waenlwyd, sef lliw y tir neu'r pridd. Cf. waen yn Wainfleet, Swydd Lincoln=talaeth-y-Llyn, neu y gors; ond er cymmaint a wneir ac a ddywedir, rhy farddonol ydyw dywedyd fod cartref gan afon, neu gartref afon! Nid oes neb a wada na fu Cheltenham unwaith yn gartref i'r Celtiaid, fel y profa y Wersyllfa Geltaidd uchod, ac y dengys enw yr afon Chelt, neu Chilt, enwau lleoedd eraill, a beddau-eirch-gerryg y Celtiaid. Felly, oddiwrth olion celfyddyd, dyfais, golygfa yr arsyllfa, amcan, cynllun, defnydd, a ffurf, yr ydym yn cael ein tueddu i gredu mai yr un genedl fuodd yn llunio y Wersyllfa Geltaidd hon yn Lleyn, a'r amddiffynfa a welsom gerllaw Cheltenham, yr hyn sydd yn myned i brofi eu bod wedi bod yn trigiannu yn y rhandir. I wneuthur ein barn yn eglurach, nid oes amheuaeth nad oedd. cyssylltiad agos rhwng y Celtiaid a'r Derwyddon, a'u bod wedi cymmeryd eu henw oddiwrth "Kelt"= bwyell aur y Derwydd gyda'r hon y torai y Pren