iad tebyg i hyny,-"Fe ddaw hi yn dywydd arno," yn yr ystyr o ymdrech neu frwydr. Yn unol â'r Gystrawen hon, gallwn ddeongli Dindywydd=Amddiffynfa y frwydr neu'r ystorm, sef tymhestl ddryghinog ymosodiad y gelyn. Ychydig iawn y mae tudalenau Hanesyddiaeth y byd yn son am "dywydd" garw deddfau natur, ond tynwyd ei sylw ym mhob oes i siarad ei llith am ystormydd trais a gorthrwm. "Na chwennych eiddo dy gymmydog" sydd Ddeddf o'r Nef; a pha Genedl bynag a droseddo y Ddeddf Ddwyfol hon, hi a eill benderfynu fod yna dywydd garw ac ystorm yn ei haros.
Yn Hynafiaeth Brydeinig (British Antiquity) cawn fod y Rhufeiniaid yn gwneuthur defnydd o'r hyn sydd genym yn bresennol yn wrthddrych ein hystyriaeth, a bod ganddynt ddim llai na phedwar-ugainac-un (81) "Castella" pedwar-onglog, chwech-a-thriugain (66) troedfedd bob ffordd ym Mur Mawr Severus yng Ngogledd Lloegr; ond y mae adeiladwaith y rhai yna yn hollol wahanol i wneuthuriad y Castell hwn, yr hyn sydd yn milwrio yn erbyn tybied mai Rhufeinig yw. Gwir fod Iorwerth y Cyntaf wedi adeiladu Castell Conwy, Castell Beaumaris, Castell Caer-ynArfon, Castell Cruccaith, Castell Harlech, a bod y wlad mor llawn o'r amddiffynfeydd hyn fel nad oedd dim llai nag un-cant-ar-ddêg, a phymtheg o honynt wedi eu hadeiladu gan frenhinoedd Lloegr mewn ychydig flynyddoedd; etto, rhaid fod y "Castell Crwn" neu "Dindywydd" ei hun ym mhell o flaen dyddiau Hengist a Horsa. Gan hyny, rhaid fod rhyfeloedd yn ein plith ar wahân i'r Saeson a'r Rhufeiniaid. Pwy all ddesgrifio mor hên yr oedd "y tŷ wedi ymranu yn ei erbyn ei hun," gan fod rhai o'r Cestyll a grybwyllasom wedi eu hadeiladu a'u dinystrio cyn dyfodiad yr estron, yr hyn sydd yn myned yn mhellach i brofi ein gosodiad? Hên gast ydyw rhoddi y bai ar eraill, tra y mae swn rhyfel yn ein pyrth ein hunain. Llefara y ffeithiau hyn wrth