RHAGARAWD.
DIAU nad oes dim a rydd fwy o bleser i neb na chael gwybod yr hyn nid yw yn ei wybod. Hyderwn, gan hyny, y bydd yn ddywenydd gan y darllenydd edrych i fewn i fanylion y Llyfr hwn. Gwir y gall ei gynnwysiad ymddangos i lawer ar ryw olwg yn rhyfedd, ac y dichon hyd y nod i ddeddfau Celf a Gwyddor eu hun daraw yn bur groes i feddwl yr efrydydd goreu ar y cyntaf. Pwy na fuasai yn barod i haeru mai nid yr un gair yw Hidecel a Tigris, heb wybod yn amgenach? Fel y gŵyr yr Athraw Duwinyddol, aeth Hidecel yn Hidcalto, Decalto, Diglith, Tiglith, Tigrith, ac yn olaf Tigris; ond yr un gair yw Hidecel â Tigris er hyny. Felly, ffol yw yr hwn elo i ddadleu heb safon. Heblaw hyn, fath ardderchawgrwydd sydd yn aml yn dyfod i'r golwg mewn hên eiriau, megys cynenw Celtaidd Nottingham, sef, Tiggocobauc—Ty Ogofäog, o herwydd fod y fangre yn llawn o ogofeydd; ac y mae'r iaith hefyd yn cadarnhau i'n hên deidiau fod yn byw yno gynt, a bod y lle yn myned y pryd hwnw wrth yr enw Ty! Gan hyny, dylid talu mwy o sylw i bethau o'r natur yma, gan fod gogoniant hanes ein Cenedl, ar ol llosgi ei Llyfrgelloedd, yn ymddibynu i fesur mawr ar ffeithiau o'r fath.
Ychydig, allwn feddwl, fu y chwyldroadau yn Lleyn ar ol y Gorchfygiad yn A.D. 1282; ac y mae y gwahanol belenau haiarn a wasgarwyd yn ddiau yma mewn rhyfeloedd cyn hyny, yn cael eu rhestru ym mhlith rhai o ddirgeledigaethau Hynafiaeth, gan