Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nad oedd pylor mewn arferiad hyd y Bedwaredd Ganrif-ar-ddeg! Ond pe buasid yn ystyried fod magnel=mangonel=(man-maen + conel=E. cannon=L. canna E.=cane), yn golygu offeryn wedi ei wneyd ond odid o goed yn yr hen oesoedd, ac yn cael ei ddefnyddio i daflu pethau felly, trwy ei nerth ei hun fel bwa, heb bylor, ni fuasid efallai yn ymbalfalu mewn cymmaint penbleth.

Torwyd llawer iawn o'r eglwysi yn y Rhandir dlos hon A.D. 978; ac ar ol rhyfel gwaedlyd Gruffudd ap Cynan, lledaenodd pla ofnadwy yma ym mhob man, fel y bu yr holl wlad yn ddiffaethwch am wyth mlynedd! A dweyd y gwir, nid ydym yn gwybod am un ardal arall a chymmaint o ôl brwydrau yn argraphedig ar ei gwyneb.

Ond, gan mai ym mlaen y mae yr arlwy, annoeth fyddai i mi eich cadw gyda thŵysged o fan bethau mewn rhagymadrodd. Felly, digon fydd dywedyd mai amcan y Llyfr hwn yw codi Hynafiaethau Lleyn o'r llwch, ac achub yr hyn oedd bron llithro i ebargofiant. Gwnaethum fy rhan yn gydwybodol a ffyddlawn. Ac yr wyf yn awr yn cyflwyno ffrwyth fy llafur i sylw fy narllenwyr, gan adael y Gwaith i siarad drosto ei hun.

JOHN DANIEL.

Ebrill 13eg, 1892.