Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

clera o'r naill fan i'r llall, tua Gwern-y-Clepa a Marchwiel, a Rhosyr ym Môn. Yr oedd hyn oll yn gwbl Lasynysaidd, er y tybiem ar y pryd y gwyddai yn amgen; beth bynnag, nid ymddangosai yn drallodedig pan ddangosais iddo mewn print fod y naill fardd wedi marw yn fuan ar ôl, os nid cyn geni y llall."

Efallai mai gan ei brysured yn dychmygu pethau fel hyn yr esgeulusodd Glasynys hyd yn oed ddarllen hanes Dante, a geir agos ym mhob cyfieithiad Saesneg o'r Commedia, heb sôn am ddysgu Eidaleg. Pa wedd bynnag, daeth cryn newid dros Gymru er y dyddiau diofal hynny a'u croesanaeth ddigrif; eto, hyd y gwn i, ni chafodd cyfieithiad Daniel Rees ryw lawer o sylw gan lenorion Cymreig. Dylanwadodd Milton yn fawr arnynt mewn rhyw ystyr lac. Y mae ei ôl ar Ddafydd Ionawr, a'i ddylanwad ar Wilym Hiraethog ac Eben Fardd. Daeth ei ôl yn amlycach fyth wedi cyhoeddi cyfieithiad I. D. Ffraid o'r Paradise Lost-buasai agos cyn hawsed i Gymro uniaith ddeall y gerdd Saesneg ei hun â deall cyfieithiad Pughe, wrth gwrs. Eto, rhetoreg Milton a'i wasgarwch amhendant a ddylanwadodd ar y beirdd Cymreig. Nid oedd, y mae'n ddiau, gymaint o siawns i fanyldeb Eidaliad a Chatholig,