Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

er maint ei ragoriaeth. Cyfyng, wrth gwrs, o anghenraid, oedd diddordeb llenyddol Cymru yn ystod y ganrif ddiwethaf, ac ychydig o'i hysgolheigion a feddyliodd am ddefnyddio'r Gymraeg at un pwrpas ond trin pynciau diwinyddol, ac aeth y driniaeth honno'n fuan yn ddiffrwyth ddigon. Wrth sôn am athroniaeth gwlad Roeg, yn yr unig lyfr Cymraeg ar y pwnc, dywedodd Llugwy Owen-"Daeth lliaws mawr o bryd i bryd yn ôl i Gymru o ganol Groeg Rhydychen, ond ni wnaeth neb ohonynt ddim yn y cyfeiriad hwn o gwbl; tybed mai dynion meirw oedd eu hathrawon yn y Brifysgol: Sut arall y digwyddodd y ffaith nad anfonasant gymaint ag un yn ôl i'w wlad wedi ei fywhau i wneud cymwynas fel hyn i Gymru?"[1] Nid rhaid synnu cymaint hwyrach, na thalai'r Cymry lawer o sylw i lyfr ar athroniaeth y genedl wychaf yn hanes y byd, neu i'r gerdd odidocaf yn llenyddiaeth y byd, er eu cael (drwy lafur rhai na buont yn Rhydychen, ond a ddringodd ryw ffordd arall) yn eu hiaith eu hunain.

Tua chanol y ganrif ddiwethaf, yr oedd y traethodau, yr erthyglau a'r esboniadau ar y Divina Commedia mewn gwahanol ieithoedd yn

  1. Hanes Athroniaeth y Groegiaid... R. Llugwy Owen, Ph.D. (Tübingen)... Conwy, 1899.