Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

agos i ddeuddeg cant a hanner o nifer.[1] Pa faint a gyhoeddwyd o hynny hyd yn awr, nis gwn, ond y maent yn lliaws, ac yn cynyddu beunydd. Y mae'n wir bod llawer o'r esboniadau a'r traethodau hyn yn trin manylion cymharol ddibwys, ond nid â'r plisgyn yn unig y mae myfyrwyr Dante yn ymwneud. Yn ystod blynyddoedd olaf y ganrif ddiwethaf, bu adnewyddu mawr ar astudio Dante yn yr ystyr orau, ac mewn oes fel hon y mae hynny'n beth nodadwy. Pa beth sydd yng ngwaith prifardd yr Oesau Canol yn tynnu sylw a myfyr meddylwyr oes nad yw, er a broffeso, yn derbyn onid ychydig o'r pethau yr oedd Dante yn eu credu?

Dywedodd rhywun, a dywediad gwych ydyw, "blodeuodd yr Oesau Canol, a Dante oedd y blodyn." Ond megis y bydd raid wrth dynerwch a gwres tymor a ddaw i beri blodeuo hedyn tymor a fu, felly yr oedd yn Dante ysbryd y deffro newydd yn gystal â ffrwyth yr hen ymdrech. Lle bo'r ddeubeth hynny bydd yr awen greu, ac nid medr y prydydd a dysg yr ysgolor yn unig. Dyna sut y mae dyfal astudio Dante yn addysg hael ynddo'i hun, am fod ei waith ef yn crynhoi ynddo'i hun hanes a thwf meddwl yr hen gyfnod ac yn rhoi bywyd ynddo ag ysbryd y cyfnod newydd.

  1. Bibliografia Dantesca. M. de Batines. 1845-6.