lleoedd gwaethaf yn Annwfn. Y chwerwder a gyfyd o'r ymryson rhwng balchter a mawredd sydd ym mhob llinell o'r gerdd, medd un beirniad Seisnig a ddyfynnir gan Mazzini yn ei ysgrif ar "Weithiau Lleiaf Dante." "Lleferydd llid personol, ysgeler hyd wrthuni, cynddeiriog wyllt," medd Walter Savage Landor. "Ym mha arddull, ynteu, y mae'r gerdd? Mewn arddull benchwiban" ("dans un goût bizarre"), medd Voltaire. Gellid, efallai, amddiffyn peth ar ergyd y beirniadaethau hyn, eto, ni byddai hynny yn setlo'r mater, mwy na phe honnid mai terfynol fel beirniadaeth ar yr awduron hynny fyddai dywedyd bod Landor yn aml yn wrthun a bod mesur da o benchwibandod yn Voltaire. Ni all fod amau na cheir ymhlith llenorion fath ar feddwl a fodlonai ei deimlad at ei elynion drwy ysgrifennu amdanynt a gwneuthur â hwy beth tebyg i'w dodi yn y lleoedd gwaethaf yn uffern-ffurf ar ddial sy'n gwreiddio, ond odid, yn y felltithgan gyntefig. Y mae personoliaeth dyn hefyd yn beth mor gymhleth fel mai anodd iawn i neb fod yn gwbl sicr am wraidd ei gymhellion ef ei hun, heb sôn am eiddo neb arall. Nid rhaid ychwaith, er mwyn edmygu ysblander Dante, ddim ymroi ati â holl arfogaeth rhetoreg i ddangos nad oedd un gwendid yn ei gymeriad, yn null y peth a elwir yn
Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/20
Gwedd