"werthfawrogiad llenyddol," peth ag ynddo fwy o fwrn nag o farn yn aml. Ond hyd yn oed a chyfaddef bod yn yr Uffern a ddychmygodd Dante wrthuni ac ysgelerder-anodd gwybod a ddisgwyliai'r beirniaid gael yno le gogoneddus a hyfryd iawn-y mae'r drefn sydd ar y lle yn awgrymu ffilosoffi ry fanwl i fod yn "gynddeiriog wyllt," a'r meddylwaith ei hun yn rhy ofalus ac union i fod yn eiddo gŵr penchwiban a dim ond hynny. A chyda golwg ar deimlad, fe ofynnodd hyd yn oed Byron-"Pwy ond Dante a allasai ddwyn dim tynerwch i uffern? A oes dim yn [uffern] Milton: Nac oes ddim. A chariad a gogoniant a mawredd yw nefoedd Dante." Diau nad oes ym Mhurdan nac ym Mharadwys Dante ddim tynerach na'i gydymdeimlad ef â Paolo a Francesca, ei ymddiddan a'i hen athro Brunetto Latini, neu ei ymddygiad at y truan di-enw yng nghoed yr hunan-leiddiaid. Eto, y mae ef yn diolch i Dduw am weled yr ellyllon yn rhwygo Filipo Argenti, ac fe wrthyd godi'r cen rhew oddi ar lygad un truan, er iddo addo gwneuthur hynny os dywedai'r collddyn ei enw wrtho. Yn wir, y mae chwerwder yn ei galon ef yn y Purdan, a chof ganddo ym Mharadwys am ffalsedd ei gyd-alltudion. Onid un rheswm am afael ei gerdd ar feddyliau dynion drwy'r canrifoedd yw'r dynoldeb
Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/21
Gwedd