Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amcan y cwbl a'r rhannau ar wahân," meddai, "yn ddwbl, un nes ac un pellach; ond os chwiliwn y mater yn fanwl, gallwn yn gryno ddywedyd mai amcan y cwbl a'r rhannau gwahân yw dwyn y rhai sy'n byw yn y bywyd hwn allan o gyflwr trueni a'u tywys i gyflwr dedwyddwch." Dyna beth a ddywedodd ef ei hun, ac ni wn i nad gorau i ni ei gymryd ar ei air. Nid yw o lawer o bwys, efallai, pa un ai merch o gig a gwaed oedd Beatrisia, ai ffilosoffi neu ddatguddiad dwyfol, fel y myn rhai. Os cymerwn mai rhyw symbol yn unig yw hi yn y gerdd, yr ydys yn ddiau yn torri'r cysylltiad rhwng y Commedia a'r Vita Nuova, un o'r pethau prydferthaf yn llenyddiaeth y serch rhamantus. Ar ddiwedd y Vita Nuova, dywed y bardd:

A gwelais weledigaeth dra rhyfeddol, ac ynddi bethau a barodd i mi benderfynu na ddywedwn i ddim yn rhagor am yr un fendigaid hon hyd oni ddeuai'r amser pryd y gallwn draethu'n deilyngach amdani. Ac i'r diben hwnnw yr wyf yn llafurio hyd y gallaf, megis y gŵyr hithau'n dda.

Ni all nad dyma wreiddyn y Commedia. Ni all ychwaith na ddatblygodd y gwreiddyn hwnnw. Dyna, ond odid, a feddyliai'r awdur wrth sôn am amcan dwbl, un nes ac un pellach, a'r ddau hynny'n tyfu'n un. Odid nad yr amcan nesaf