oedd dywedyd am Beatrisia beth nas dywedwyd erioed am arall—"spero di dire di lei quelle che mai non fu detto d'alcuna," yng ngeiriau'r bardd ei hun. Dyma beth tebyg iawn i dra—dyrchafu rhyw wedd ar anwes y serch cwrtais. Aeth yr amcan yn ddihangfa i'r bardd rhag anffodion a gofidiau ei fywyd helbulus, ac wrth hynny fe ddaeth yr amcan pellach hefyd. Eto fe gyfiawnhawyd. gobaith y bardd—fe ddywedodd am Beatrisia beth nas dywedwyd erioed am arall, hyd yn oed os aeth hi cyn y diwedd yn ffilosoffi neu ddatgudd iad dwyfol. Y mae hi, lle bynnag y sonnir amdani, megis ffigur ar wastad uwch na'r bardd, weithiau yn wir, yn nesaf peth i ryw amgyffrediad di—gorff. Os gellir deall dechreuad y Vita Nuova yn llythrennol—ac ni wedd un ystyr arall arno— nid oedd ef ond naw mlwydd oed pan welodd hi gyntaf, a hithau ychydig gydag wyth, ac fe'i carodd hi yn y fan. Yr oedd hi felly yn ferch a garwyd yn gynnar iawn, ac a gollwyd, canys priodwyd hi ag arall, a bu farw yn bedair ar hugain oed. O hynny, ideoli'r ferch fach honno ar hyd bywyd o siomiant, unigrwydd a myfyrdod, nid rhaid ond deall hynny i ddeall y gyfrinach— onid hi yw'r eneth fach y cyffelybir iddi yr enaid pan ddêl gyntaf o law ei grewr?—