Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwneud rhywbeth, am fywyd egniol, ond yn rhy hoff o gwmffwrdd â sicrwydd ei ddosbarth, heb ddigon o dân i'w gario yn groes i'w fudd, ac am hynny yn ei dawelu ei hun drwy sôn am y "tonguester tricks" a'r "crude imaginings," fel y bydd pobl o'r un dosbarth yn gyffredin.

Fel y gallesid disgwyl, yn wyneb hyn, yr oedd gan yr amser a fu, traddodiad a rhamant, swyn mawr iddo. Dylanwadodd yr ysbryd a elwir yn "ysbryd clasurol" yn fawr arno. Medrai ymdaflu yn dda i syniad ei oes am feddwl y Groegiaid. Yn ei "Ulysses," y mae ysbryd y bywyd egniol. Cymerer y llinellau hyn, lle ceir ysbryd antur ac annibyniaeth:

Death closes all: but something ere the end,
Some work of noble note may yet be done,
Not unbecoming men that strove with gods.

Gwych oedd dynion a wynebai'r duwiau gynt, ond Duw a'n helpo rhag y dynionach-"the herd"-a fynnai ymryson â'u meistriaid am dipyn o degwch, yn hytrach na disgwyl yn ufudd wrthynt am grystyn yn awr ac yn y man. Yn yr ysbryd hwn, medrai Tennyson ganmol rhyfel a masnach fel pethau at wareiddio dynion. Eb efô: