Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

These two crowned twins,
Commerce and conquest, shower the fiery grain
Of freedom broadcast over all that orbs
Between the Northern and the Southern morn.

Ac ym "Maud," y mae'r arwr yn cael gwellhad rhag drygau cymdeithas a'i wallgofrwydd ef ei hun, drwy fynd i ryfel. Y mae rhyfel yn beth da-yn rhywle arall, a chwildroad yn beth drygionus-gartref. Eto, fel cerdd, y mae "Ulysses" yn dodi Tennyson yn llawer uwch nag y dyd ei gerddi ar bynciau ei oes ei hun ef. Dwg ni yn ôl

Far on the ringing plains windy Troy,

a medr ein hatgoffa am eiriau beirdd Groeg ei hun. Y mae grym hefyd yn ei linellau syml:

It may be we shall touch the happy isles,
And see the great Achilles whom we knew,
Though much is taken, much abides; and tho'
We are not now that strength which in old days
Moved earth and heaven; that which we are, we are;
One equal temper of heroic hearts,
Made weak by time and fate, but strong in will
To strive, to seek, to find, and not to yield.

Onid dyna feistrolaeth ardderchog ar wir gamp yr elfen Anglo-Sacson yn Saesneg, ei geiriau byrion syml: Yn ei gerddi rhamantus, ni bydd ef mor llwyddiannus, oddi eithr yn rhai o'r telynegion.