Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cerdd go gymysg yw "Maud" yn adrodd am gariad a chas gŵr bonheddig wedi colli ei arian- a'i synhwyrau-ac yn barod i weld bai ar bawb a phopeth o'r herwydd, ystori garu, dipyn yn wyllt ac amhosibl. Y mae ynddi rai telynegion ardderchog, ac y mae ei mydryddiaeth yn gampus drwyddi. Anffawd oedd gladdu'r telynegion yng nghanol y fath enghraifft o'r "tonguester tricks er gogoniant milwriaeth. Gwan yw ei chlo, hyd yn oed fel ystori, ond wedi i ddyn o'i gof ladd brawd ei gariad, nid annaturiol iddo fynd i ladd dynion eraill mewn rhyfel a galw hynny'n was anaeth i Dduw a dyn. Gwaith lled gyffelyb yw "The Princess," sy'n dechrau mor debyg i nofel ffasiynol:

Sir Walter Vivian all a summer day
Gave his broad lawns until the set of sun
Up to the people; thither flock'd at noon
His tenants; wife and child, and thither half
The neighbouring borough with their Institute
Of which he was the patron. I was there
From college, visiting the son, the son
A Walter too,-with others of our set,
Five others; we were seven at Vivian-place.

Dyna ni-broad lawns, people, tenants, Institute, patron, college, visiting, the son, our set, Vivian-place, dyna'r dosbarth a'r cyfnod a'r mân siarad; yr ydym yn teimlo bod gan adroddwr yr hanes syniad