dyledus am yr anrhydedd a roed arno. Efallai, wedi'r cwbl, mai dyma'r brydyddiaeth, neu'r frydyddiaeth, a dalodd i Tennyson yn ei oes. Ond wrth lwc, gwnaeth Tennyson lawer gwell gwaith. Os canodd i ferched ieuainc ag enwau neis ac ysgwieriaid ag wynebau'n rhythu fel cerrig nes gorgoneiddio pobl, canodd hefyd i feirdd a meddylwyr, ac nid oes reswm tros gredu na wyddai yntau'r gwahaniaeth hefyd. Dywed rhai mai chydig o'i delynegion yn unig a ddarllenir bellach. Ni synnwn i ddim, canys y mae'n gofyn tipyn o ddeall i ddarllen ei waith mwyaf—y gerdd a alwyd ganddo ef "In Memoriam." Anturiais eisoes ddywedyd mai ymdrech yr ysbryd yn wyneb tynged dyn oedd ymdrech wirioneddol Tennyson, ac yn yr "In Memoriam" y ceir hanes yr ymdrech honno. Yno y mae ef o ddifrif, a dyna'r gerdd o'r eiddo a adawodd fwyaf o'i hôl ar ei ddarllenwyr meddylgar, yr unig ddarllenwyr gwerth eu cael, wedi'r cwbl. Bu farw ei gyfaill, Hallam, yn 1833, ac ar ei ôl ef y canodd Tennyson y gerdd. Bu flynyddoedd wrthi, a rhoes ei orau ynddi. Dyna'r rheswm, efallai, paham y mae'n well gan rai o'r beirniaid ei delynegion ysgafnaf.
Wedi cyfnod egniol Shelley a Byron, Wordsworth a Coleridge, nid oedd ond naturiol ddyfod cyfnod tawel. Methodd amcanion uchel,