Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a daeth digalondid. Ond yr oedd symudiadau eraill yn codi, yr hawl am ddiwygiadau gwleid yddol, y "Reform Bills," ac effaith y pethau yr oedd gwybodaeth yn dyfod o hyd iddynt. Ofn odd rhai fod y bobl—the herd—am drechu eu hen feistriaid, ac eraill fod y gwybodau am ladd yr hen grefydd. Ni allodd Tennyson gyd—gerdded a'r awydd ehangaf am ryddid gwladol, ond aeth ymhellach ar ryddid llwybr y meddwl yn yr ystyr grefyddol neu ysbrydol. Amcanodd drin rhai o bynciau gwleidyddol yr oes, megis yn "The Princess," cerdd ar bwnc hawliau'r merched, ond hanner difrif hanner digrif yw ei ddull, ac yn awyr ac amgylchiadau'r Oesau Canol y dewisodd ef drin ei fater. Ond yn yr "In Memoriam," gafaelodd yn un o bynciau ei oes, neu yn hytrach yn y meddwl dyfnaf oedd gan ei oes am gariad, Duw, ac anfarwoldeb. Ceir yn y gerdd odidog hon olwg ar bynciau gwybod a chrefydd fel yr oeddynt yn effeithio ar feddyliau dynion tua chanol y ganrif. Gwelwn fod y bardd yn derbyn y syniad cyffredin bellach am ffurfiad daear a dyn:

The solid earth whereon we tread
In tracts of fluent heat began
And grew to seeming random forms
The seeming prey of cyclic storms
Till at the last arose the man.