Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dyna'n fyr rediad y gerdd. Y mae'n llawn o'r ymdrech rhwng gobaith ac anobaith, ond y mae gobaith ar y cyfan yn trechu, nid gobaith hygoelus ac anwybodus, ond gobaith wedi trechu amheuon a gofid, ac yn canu cân brudd ond urddasol. Bychan, efallai, yw'r pellter rhwng ei obaith ag amheuaeth wedi'r cwbl, canys gallodd y Cymro Clough, a roddes ei leferydd mwyaf didwyll i amheuaeth deall y ganrif, gyrraedd yn agos iawn i'r un fan ag yntau:

To finger idly some old Gordian knot,
Unskilled to sunder, and too weak to cleave,
And with much toil attain to half believe.

Bydd rhai beirniaid hwylus, nad ymddengys fod yn beth anodd o gwbl ganddynt dderbyn tyst iolaethau traddodiadol agored i bob math ar ansicrwydd, yn galw peth fel hyn yn rhyw anwes arwynebol, gan ei droi o'r neilltu drwy chwerthin am ei ben, ond fe saif llinellau Tennyson yn dragywydd:

There lives more faith in honest doubt,
Believe me, than in half the creeds.

Ac eto, ar y cyfan, y mae Tennyson ar du gobaith uchaf ei oes, a phob oes, o ran hynny. Y gwir yw bod dyn yn ei amryw foddau yn ddigon