Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anghyson ag ef ei hun. Mewn bywyd, ni cheir pobl sy'n meddwl ac yn gweithredu bob amser yn gwbl gyson. Ac y mae'r beirdd, hwyrach, yn anghysonach na'r cyffredin, a'u moddau mor aml fel y mae'n anodd dyfod o hyd i'r agwedd ar eu meddyliau y gellid ei hystyried y fwyaf parhaus. Cafodd cerdd Tennyson afael ar lawer, a dyfynnwyd mwy ohoni nag o un darn arall o'i waith. Ymhlith dynion meddylgar bydd yr "In Memoriam" fyw yn hir, canys rhydd gysur i lawer un, ac nid rhyw degan yw.

Daw'r adeg, ond odid, pryd y cyfrifir Tennyson yn fardd mwy nag y cyfrifir heddiw. Yr oedd yn feistr ar eiriau—canodd yn llyfn ac yn felys mewn iaith sydd yn gwneud hynny yn beth anodd; yr oedd amrywiaeth yn ei bynciau a'i fesurau, ac ar ei orau yr oedd yn feddyliwr cywir, dwfn a chlir. I ddarllenwyr Cymreig, diddorol yw gwybod ei fod unwaith wedi astudio tipyn ar y Gymraeg, ac y mae yma ac acw yn ei waith rywbeth nid annhebyg i egwyddor cynghanedd Gymraeg.

(1909).