Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PETH digon diddorol, a digon digrif yn aml, yw syniadau gwahanol genhedloedd am ei gilydd, fel y ceir hwy yn eu llenyddiaeth. Gofyn nodd Dic Huws, Cefn Llanfair, gwas meirch i'r frenhines Elsbeth, i gyfaill o Gymro a phrydydd:

A ŵyr mil, er eu malais
Dan eu swydd, ai dyn yw Sais?

Atebodd y llall, "ar ddwfn ystyried," chwedl Ellis Wynne:

Dyn yw Sais, ond edn sosi,
Ac nid gwell cyfell na'r ci!

Tipyn yn annheg at y Sais a'r ci, wrth gwrs, ond dim llawer gwaeth na llawer o bethau a ddywedir mewn llenyddiaeth gwbl ddifrifol gan rai o un wlad am rai o wlad arall.

Bu tri chyfnod ar berthynas Cymru a Lloegr yn yr ystyr hon-cyfnod y Cymro Gwyllt (coffeir amdano hyd heddiw yn enw y traen cyflym o Gaergybi i Lundain); cyfnod y Cymro Digrif a chyfnod y Cymro Gwneud. Ni cheir cymaint o adlais y cyfnod cyntaf mewn llenyddiaeth Saesneg, yn ystyr gyffredin y gair. Nid cwbl ddigrif chwaith bob amser fyddai Cymro'r ail cyfnod—