Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

daeth yn gryn ddyn, er enghraifft, am dipyn yn amser y Tuduriaid, ond y mae er hynny ryw ias o ddigrifwch ynddo fel yr ymddengys ar y llwyfan Seisnig. Yn lle bod yn ddim ond gwyllt a throednoeth, aeth yn ddigrifwyllt. Nid yw'r cyfnod wedi cwbl ddarfod eto—collodd lawer o'i ffasiwn er pan gredodd y mân ysgwieriaid eu bod wedi etifeddu diwylliant Seisnig, gan ddigio wrth eu gwlad eu hunain a mynd i fyw i Gaerfaddon neu rywle felly. Ond rhyw fath ar ddatblygiad o'r wedd hon ar yr ail cyfnod yw'r trydydd. Gŵr yw'r Cymro Gwneud nad ofnir mwy, na pherchir yn arbennig iawn, na hoffir yn drwyadl, ond a noddir, megis, ac a ystyrrir yn rhyw greadur mwy neu lai diddorol a chymharol ddiniwed. Peth digon ansicr yw pa un ai ei wneud ei hun ai gwneud eraill y mae—tipyn o'r naill a'r llall, efallai! Daethpwyd o hyd iddo gan ddosbarth o nofelyddion ac ysgrifenwyr wedi eu swyno gan y ddychymyg am felancoli'r Celt, dychymyg a wnaeth hafog ar Wyddyl a Chymry, ac a'u troes o fod yn bobl wylltion neu ddigrif i fod yn greaduriaid breuddwydiol, meddal, ac yn eu llygaid ryw oleuni dieithr, nesaf peth i'r llewych a fydd yng ngolwg ambell un o'i gof. Bu'r nofelyddion wrthi mor ddygn yn dysgu ambell air Cymraeg, yn hel y "local colour," ac yna yn ein disgrifio,