Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel yr aeth llawer ohonom ni ein hunain i led gredu eu bod yn eu lle, ac i geisio edrych ac ymddwyn fel y dylasem rhag ofn i ni fod yn annheilwng o'r cymeriad newydd a ddychmygodd ein cyfeillion galluog i ni. Y mae rhyw arwyddion bod y cyfnod hwn yn mynd heibio, a bod un arall, cyfnod y Cymro drwg-ei-nerfau, ar ddechrau, ond rhaid aros am ysbaid cyn y ceir digon o ddeunydd at astudio hwnnw. Un gwahaniaeth rhwng y cyfnod hwn a'r lleill yw nad Saeson yn gymaint a Chymry sy'n ei gychwyn. Ni ellir gweled bai arnynt, efallai, am ddechrau yn y gwaelod.

Nid peth ofer ar awr segur, efallai, fyddai bwrw bras olwg ar yr hyn oedd Cymru a'i phobl i'r beirdd Seisnig gynt, o ddyddiau Chaucer i lawr hyd y ddeunawfed ganrif. Ni soniwn am Gymry Shakespeare, gan fod cynifer wedi traethu ar y pwnc hwnnw eisoes. Gellir dywedyd wrth fynd heibio, megis, mai digrif yw agos bob cymeriad Cymreig yn chwaraeon Shakespeare, Decker a Jonson, yn enwedig Decker. Y mae Syr "Owen ap Meredith" a "Gwenthyan" yn "Patient Grisill" ganddo ef, yn ddigrif tros ben, er bod yn wir na byddent hwy, nac odid un o'r stage Welshmen yn y ddrama Saesneg gynt, lawn mor ddigrif oni bai am eu hiaith. Clywai'r dramadyddion Gymry wrth siarad Saesneg yn