Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

seinio dwy d a ddêl ynghyd heb lafariad rhyng ddynt, neu d ac h, fel t, a'r un modd yn caledu'r seiniau b, g, yn yr un cyfuniadau, fel y gwneir hyd heddiw yn Gymraeg mewn rhai tafodieithoedd, ac y parheir i wneuthur yn ôl rheolau cynghanedd. Yr oedd hynny'n ddigrif gan y Saeson—mor ddigrif ag a fydd gan Gymro glywed Sais yn dywedyd "Thlangothlen" a phethau tebyg—ac yna, wrth geisio defnyddio'r peth fel moddion digrifwch ar y llwyfan, aethant i galedu b, d, g lle na chaledai'r Cymry monynt byth. Pe troid y peth a ddywed y cymeriadau hyn yn y chwaraeon i Saesneg y cymeriadau Seisnig, ni byddai mor ddigrif o lawer; am hynny, fel y mae'n anhepgor, tipyn o anwybodaeth ac anghynefindra, o'r ddau tu, yw sail cymaint a hyn o'r digrifwch. Wrth gwrs, Cymry gwyllt oedd y stage Welshmen yn y cyfnod hwn, ac y mae rhywbeth yn ddigon digrif yn eu tanbeidrwydd, yn enwedig pan orfydd iddo fod yn rhyw ddiniweidrwydd hefyd, megis yn hanes Syr Owen ap Meredith a "Gwenthyan." Byddai raid wrth ddogn drychinebus o ddi frifwch i beri i ddyn ddigio with greadigaethau Shakespeare neu Decker—mewn ffordd, byddent yn ddigrifach yng ngolwg Cymro nag yng ngolwg neb arall. Er bod Chaucer yn byw'n agos i'r pryd yr oedd y Cymry a'r Saeson yn