rhyfela â'i gilydd, ni cheir adlais yr ymladd yn ei gerddi ef. Gŵr mwyn, diddan, oedd Chaucer, yn canu chwedlau digrif i blesio pobl fawr, ac ymddengys mai beirdd a Christnogion oedd y Cymry iddo ef. Yn "The Frankeleines Prologue," dywed:
These olde gentil Bretons in hir dayes
Of diverse aventures maden layes,
Rimayed in hir firste Breton tonge,
Which layes with hire instruments they songe,
Or elles redden hem for hir plesance;
And on of hem have I in remembrance,
Which I shall sayn with good while as I can.
Adlais y rhamant Arthuraidd yw hwn, ac nid oes ynddo ddim ôl cydnabyddiaeth bersonol. Tebyg yw'r cyfeiriadau yn "The Man of Lawes Tale," lle daw'r Cymro i'r golwg fel Cristion yng nghanol paganiaid, ac y sonnir am ei wlad fel noddfa Cristnogaeth (pethau y bydd yr awdurdodau ar "Neges Cymru i'r Byd" yn eu cyhoeddi gyda difrifwch mawr o hyd):
In all that land [Lloegr] no Cristen durste route, |