Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwmni iddo: caiff symud i ysgol arall. Dymunaf gael llythyr dioed i ddweud pa fodd y mae iechyd Gwen, Fanny, Thomas, Dafydd a Richard. Dymunaf i Gwen ysgrifennu llythyr ataf y tro nesaf; dymunaf ei gael yn ddioed. Caiff hithau'r pethau y mae yn eu ceisio. Mae arnom eisiau llythyrau yn amlach. Gobeithio, Dafydd annwyl, y gwnei ufuddhau i weddïo pan geisir gennyt; yn awr y mae dechrau. Dymunaf gael gwybod a ydych yn cadw dyletswydd deuluaidd yn rheolaidd a chyson bob yn ail eich pedwar. Mae hyn yn ddymuniad taer eich mam a minnau. Yr Arglwydd a'ch bendithio ac a'ch cyfarwyddo ac a'ch cadwo rhag pob drwg. Ymddygwch ym mhob peth fel y mae'n addas i'r saint; hwn yw dymuniad enaid eich tad."

Bu farw John Jones yn 1857, ac yna'n raddol gwasgarwyd y plant. Ychydig cyn ei farw aeth yn un swydd i weled ei fab hynaf, a ddaethai erbyn hynny yn berchennog llongau a chwareli, i erfyn arno gefnu ar y byd, a throi ei fywyd i wasanaeth yr Efengyl. Cloffodd ei fab rhwng dau feddwl am ysbaid, ond glynodd wrth y byd. Yr olwg olaf a gefais arno oedd yn ei blas hardd, yn hen ŵr musgrell ac anfoddog, heb fawr o'i ôl ar gartref nac ar gymdogaeth.

Bu gweddw John Jones, Fanny, fyw am flynyddoedd yn Nhalysarn wedi claddu ei gŵr, ac yr oedd ei direidi a'i duwioldeb yn parhau hyd y diwedd. Pan ddaeth Thomas John, Cilgerran, i Dalysarn yn nyddiau cyntaf ei gweddwdod, pregethodd yn ei ffordd hynod ar "Y Cyfamod Disigl." Ar ganol y bregeth, a hithau'n eistedd yn y Set Fawr gyda'r blaenoriaid, cododd Fanny Jones ei llaw, â'r fodrwy briodas arni, a thorrodd allan: "Y mae angau wedi torri hon, ond y mae gennyf gyfamod arall na all angau na'r bedd ei dorri." Yna aeth Thomas John a hithau i orfoledd. Bu farw yn Llandinam yng nghartref ei mab, David Lloyd Jones.

Dyma gefndir bore oes Fanny Jones, Machynlleth, a dyma hen gynefin ei dawn a'i hatgofion dwys a digrif. Cyfarfüm wythnos yn ôl â gwraig a fu'n aelod