Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arnat fod yn bwyllog ac yn ddifrifol gyda hynny. Gochel ar un cyfrif ddenu serch neb, heb fod o feddwl gonest a difrifol. Pechod a ddygodd felltith amlwg ar lawer ydyw gwneud twyll neu arfer anffyddlondeb. Gofala am ochel cellwair à neb mewn un modd oni bydd gennyt feddwl difrifol a phenderfynol. . .

Da iawn gennym gael hanes oddi wrthych yn fynych, fynych. Onid oes ar fy mrodyr hiraeth mawr mewn hen le anial fel yna-dim modd gwneud y crop yn arian? Wedi ei godi, ni ellir gwerthu'r gwenith. Pa beth yw gan hynny o werth? Ni thâl y tir a'r wlad i gadw gweinidogion. Pe bai yna swm yr Wyddfa o wenith ni thalai i'w gario i'r môr-mae mor bell. Gan hynny, pa beth a wnewch? Gweddïa ar Dduw am gyfarwyddyd, pa beth i'w wneud. Dyro yn dy lythyr ateb i'r gofyniadau hyn: (1) A fyddi yn dilyn y Seiat ac yn cadw addoliad teuluaidd? (2) Pa beth ydyw dy fwriad gyda'r ffarm? (3) Pa fodd y mae ar dy fodraboedd? (4) Hanes d'ewyrth William. (5) Pa faint yw'r prisiau yn awr? (6) Pa bryd y byddi yn codi yn y bore?

Y mae'n agos i dri o'r gloch y bore y munud hwn. Dy fam a minnau sydd ar ein traed."

Ac at ei frawd, William, yn America:

"Pa fodd y mae achos crefydd yn eich cymdogaeth? Bûm yn Llundain y llynedd. Ceisiant gennyf ddyfod yno i fyw, a chynigiant i mi yn dda, ond bwriadu'r wyf i'm llwch orwedd yn naear Cymru neu America. Disgwyliais lawer am lythyr oddi wrthych yn fy mhrofedigaeth chwerw ar ôl colli fy annwyl blentyn 14 oed. Mae fy hiraeth yn annioddefol."

Dyma un o'i lythyrau olaf at ei blant (22/11/1856): "Fy annwyl Dafydd a'm Plant oll,

"Mae eich llythyr wedi rhoddi i mi a'ch mam fodlonrwydd mawr. Gwyliwch a gweddiwch am fendith yr Arglwydd ar eich masnach ac am gyfarwyddyd dwyfol yn eich holl symudiadau. Cofiwch fod llywodraeth Duw dros bob peth, a'i fod yn trefnu trigfa preswylfa pob dyn fel y ceisiant yr Arglwydd. Caiff Dafydd bob peth y mae yn ofyn. Caiff Gwen aros yna eto yn