Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwraig y Pendist newydd ddarfod," a pheri tynnu llen ar y ffenestri. Eglurodd ei bod wedi clywed traed yn esgyn y grisiau ac yn croesi'r ystafell, a llais yn sibrwd y geiriau wrthi. Ymhen amser daeth gŵr ar gefn ceffyl gyda'r newyddion am farwolaeth ei pherthynas o'r Pendist.

Nid oes fawr o goel yn yr oes olau hon i ymwybyddiaeth o'r fath, ond gan rai fel Syr Oliver Lodge a'r gwyddonwyr eraill a ffurfiodd y "Psychical Research Society." Cofiaf yr Athro Fleure yn adrodd ei gred fod gwareiddiad arwynebol yr oes wedi ein hamddifadu o rai o ddoniau yr is-ymwybyddiaeth mewn oes dawelach a dyfnach.

Yr un modd gyda diwylliant cefn gwlad. Yr oedd barddoniaeth a'i chrefft yn fore iawn ar aelwyd Tan y Castell, fel y dengys emynau a phrydyddiaeth Dafydd Jones o Dreborth. Ac am ei frawd John yr oedd diwinyddiaeth, ac athroniaeth, cerddoriaeth a chrefftwaith ganddo i'r fath raddau nes ei gymhwyso, yn ôl beirniad o fri, i fod yn arholwr Prifysgol ar “Gyfatebiaeth rhwng Natur a Chrefydd " gan yr Esgob Butler. Ugain mlynedd yn ôl cyhoeddwyd Tonau Talysarn " gan Emlyn Evans, ac yn ôl fy modryb, nid âi'r teulu i orffwys heb ganu, fel côr, amryw o hoff emynau ei thad.

Gwelais yn yr hen gist amryw lythyrau o'r ganrif o'r blaen-un o Lundain i'w wraig yn 1838, yn diweddu: "Dymunaf arnoch ofalu am Thomas a Richard bach rhag iddynt gael cam, nac oeri eu traed a chael afiechyd. Dymunaf arnoch, er fy mod dros ddau gant o filltiroedd oddi wrthych cedwch ddyletswydd yn ofalus, ac aed rhywun i weddi yn y llofft newydd bob dydd; gofelwch am wneud hyn, ac na adewch y tŷ heb ddyletswydd. Yr Arglwydd fyddo yn dda wrthych, a'i amddiffyn fyddo trosoch. Gweddiwch drosof eich gorau.

Mewn llythyr at ei fab John yn America yn 1847, ysgrifenna: "Mae dy addewid na bydd i ti briodi heb ein cydsyniad wedi llonni llawer ar dy fam. Dymunaf