Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

weinidogaeth, a dychrynwyd ei wraig gymaint nes erfyn arno fod "fel pobl eraill, a pheidio â thynnu pawb am ei ben." O'r diwedd, wrth weled ei dagrau ar ei hwyneb, trodd ati: "Os yw fy nghydwybod yn lân a Gair Duw wrth fy nghefn, waeth gen' i amdanynt."

Yng ngwaelod y gist cefais lyfryn wedi ei rwymo mewn lledr ac arno "A present to Fanny Jones ", ond ar ei ddalennau y mae nodiadau o bregeth ar yr Antimoniaeth a ddyrysai gymaint o'i gyd-grefyddwyr wrth roddi'r pwyslais oll ar etholedigaeth Duw a dim ar ymdrech dyn. Y mae'r ysgrif mor fân fel mai prin y medr neb ei darllen ond â chŵydd-wydr. Dyma un o'i ymresymiadau a ddengys ei ddull cartrefol ac effeithiol o drafod y pwnc:

"Meddyliwch fod Admiral Lloegr yn anfon llythyr at gapten y fan-i-war, neu long ryfel, i Fôr y Canoldir, yn gorchymyn iddo ddyfod â'r llong adref i Loegr. Oni ddeallai'r capten mai meddwl yr Admiral ydyw iddo ef, nid cario'r llong ar ei gefn, ond yn unig arfer y moddion i'w dwyn adref, codi'r hwyliau ac iawndroi'r llyw, a gadael i'r môr ei chario a'r gwynt ei gyrru adref. Felly, long ymhell oddi cartref ydwyt tithau, a Duw yn galw am yr hen long yna adref yn ôl; ond nid yw'n disgwyl i ti ddod yn dy nerth dy hun. Y mae yn caniatáu i ti ei rhoddi ar fôr Rhad Ras i'w chario, ac o flaen gwynt nerthol yr Ysbryd o'r uchelder i'w gyrru adref, ond disgwyl i tithau godi ambell ysgrythur i fyny yn dy fyfyrdod, fel hwyl ar y mast i'r gwynt gael dal arni, ac anfon ambell weddi i fyny fel llyw i'w chyfeirio i'r iawn borthladd."

Sefais ddoe uwchben bedd ei fam, Elinor ach Rhisiart, a gladdwyd yn 1847 gerllaw hen Eglwys y Plwyf yn Nolwyddelan. Cofiaf fy modryb yn adrodd fel y cafodd ei thad yn Nhalysarn freuddwyd am ei marwolaeth. Yr oedd rhyw gyfriniaeth ryfedd (neu second sight, ys dywed gwŷr yr Ucheldiroedd) yn y ddau. Cofiaf hanes eu bod yn eistedd mewn parlwr yn y llofft pan gododd Fanny Jones yn sydyn gan ddweud, Mae