Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lunio, nid mawrion byd, ond cymeriadau a phrofiadau'r anenwogion hynny na welir eu hanes mewn llyfr hanes.

Rhyw deimlad o'r gwerthoedd hyn, wrth chwilio a chwalu hen bapurau, a barodd imi anfon hen ysgrifau fy modryb Fanny at Kate Roberts, rhag ofn bod ynddynt ddiddordeb i eraill hefyd. Gresyn yw eu bod mor fyr a bratiog, ac na buaswn ar y pryd, ddeugain mlynedd yn ôl, wedi ysgrifennu'n fanwl yr ystorïau a glywais ganddi noson ar ôl noson ar yr aelwyd am fywyd yn Nhalysarn ganrif yn ôl.

Nid oedd y cartref prysur a'r diwydiant llechi cynnar o grombil y Nant dawel mor ddi-ramant chwaith. Oni anwyd ei mam, Frances, ar lan môr Ffrainc pan aeth ei nain i weini ar ei gŵr, a fu'n ymladd yno tan Wellington? Oni phriodwyd hi yn ddeunaw oed â John Jones, a aeth, ganol dydd golau, at ei thad, Thomas Edwards Taldrwst, i ofyn amdani, ac wedi'r briodas yn hen Eglwys Llanllyfni, oni chariodd hi o'r Eglwys ar grwper ei geffyl yn ôl arfer yr oes?

Yng ngolau atgofion fy modryb nid Methodistiaeth yn unig a lanwodd fryd ei thad, fel y gallesid meddwl wrth ddarllen y Cofiant swyddogol gan y Dr. Owen Thomas. Cofiaf hi'n adrodd fel y dychwelai o'i deithiau hir ar gefn ei geffyl, ac fel y rhedai ei blant ato cyn ei fod wedi tynnu ei got farchogaeth, a'r genethod â'u breichiau am ei wddf

"Yn gu rosynnog res annwyl,
Yn gariad i gyd mewn gwrid gŵyl",

ac fel y cododd hwynt i gyd o'r llawr â'i freichiau cryfion. Hanes angerddol ydoedd colli ei eneth Elin yn bedair ar ddeg oed. Y mae disgrifiad manwl a hynod iawn ohoni, ac o arteithiau ei enaid yn ei golled, yn ei bregeth "Y Symudiad Mawr."

Cofiaf hefyd ei hanes am ei thad pan erlidiwyd ef gan yr Uchel-Galfiniaid oherwydd ei gyfeiliornad, yn ôl eu tyb, at Arminiaeth, a'i bwyslais ar ran a dyletswydd dyn yn ei iachawdwriaeth. Bygythid ei droi o'r