Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ddiflas a chas gennym eu gweled byth. Felly gwelwch fod marchnad dda yn cael ei gwneud gan Lowri mewn wics.

Feallai y dylwn hefyd ddweud fod yn byw yn ein hymyl deulu mewn tŷ hen ffasiwn o'r enw Pen y Parc-tŷ bychan llawr a siamber, â thaflod a chowrt a gardd o'i flaen, beudy dan yr un to, a chegin allan yn agos iddo. Yr oedd y teulu yn gynwysedig o ŵr a gwraig a phump o blant-y gŵr, Hugh Jones; y wraig, Mary William; a'r plant, Siôn, Wil, a Chadi, a Siani, a Neli. Saer coed oedd Hugh Jones, ac yn ddyn distaw, tawel a didrwst, yn gweithio yng ngweithdy'r Plas, Talysarn. Y Plas yn cynrychioli chwarel Talysarn y pryd hwnnw. Yr oedd gan Hugh Jones gydweithiwr, sef Evan William y Graig, ac yr oedd tuedd y dyn hwn at ddiod. Felly fe âi Hugh Jones ben y mis i'r dafarn, a chymerai ormod o ddiod nes byddai dan ei heffeithiau yn gecrus, fel y byddai bob amser pe gofynnai Mary William iddo pan welai ef felly, "P'le y buost, y creadur rhyfedd? Wyt ti wedi colli hynny o synnwyr a roddodd Duw iti, dywed? P'le mae d'arian di, dywed? Ai gweddill y mae Marged y Graig a minnau i'w gael at gadw'r plant ac i'ch cadw chi, dywed? Y ffwl gwirion! Dos i dy wely. Dyna'r lle gora' i ti, yr hen gena'."

Dynes ryfedd iawn oedd Mary William-hollol ddiddirnad am grefydd-ond nid oedd mo'i gwell at bethau'r ddaear yma. Magodd lond tŷ o blant yn onest, yn weithgar ac yn ddiargyhoedd, ond ni