nhad gartref fe fyddai'r gweinidogion hyn yn aros yn ein hen gartref ni, ac O! 'r fath aberth a achosai rhoddi gwely i bregethwr dieithr, oblegid yr oedd holl welyau ein tŷ ni bob amser yn llawn; ond os dymunai fy nhad eu cael ni fyddai un drafferth yn ormod i'm mam i'w gwneud.
Yn y Tŷ Capel, Robert Griffith, y blaenor, oedd y gŵr, a Margaret Thomas oedd y wraig a Lowri Roberts oedd y ferch. Ni chaed erioed gymhwysach teulu i gadw Tŷ Capel, oblegid yr oedd y cymhwyster yn perthyn i'r tri hyn at y goruchwylion y gosodwyd hwy ynddynt—Robert Griffith i weinyddu ar y ceffylau ac i fedru cynnal ymddiddan â'r gweinidogion; Margaret Thomas i weini arnynt ac i eistedd wrth y bwrdd i'w diddanu a'u helpio, ac i ddweud wrthynt am y tamaid blasus a gawsai yn y bregeth y noswaith honno; a Lowri yn darpar y bwyd mor berffaith â phe derbyniasai gyflog cogyddes o ugain punt: y cwbl oedd ganddi i fyw arno oedd pobi wics. Byddai'r rhai hyn y pryd hwnnw yn angenrheidiau anhepgorol, oblegid dyna'r nwyddau a fyddai fwyaf mewn bri ar adegau marw neu briodi. Byddai'n arferiad myned i ymweld â'r teulu y byddai marwolaeth wedi digwydd ynddo, ac yn gyffredin deuid ag ychydig anrhegion gyda hwynt, weithiau de neu siwgr neu ymenyn, ond yn amlaf wics. Felly y bu yn ein tŷ ni pan fu farw fy chwaer bedair ar ddeg oed. Am fod gennym de a siwgr ac ymenyn ni wyddid beth i'w gyflwyno, ac felly daeth ugeiniau â wics. Buom yn byw ar wics nes aethant