Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel panorama prydferth. Oddi tano'n union, y tu arall i'r ffordd, yr oedd gardd Pen y Parc a choedwig brydferth; yna'r gledffordd a chaeau'r Plas; yna'r drive i'r Plas, ac wedi hynny "cae y ffrynt" fel y gelwid ef, â'i wyrddlesni yn ddiarhebol bob amser; yna Ffordd y Plwyf a'r bont dros Afon Sarnwylltddur; yna meysydd perthynol i fferm Hendre Gwyn, hen adeilad isel, cegin, siamber, a thaflod, a thŷ croes a ystyrid yn barlwr, yna ychwaneg o feysydd Tyn-y-werglodd, Tŷ Mawr a Gwernaer. Wedi hynny fe godai'r tir

yn naturiol i fyny, i fyny nes dod at Gwm Silyn; yna fe ysgythrai'r creigiau tragwyddol o'n blaen byth heb newid, a byth yn herio tymhestloedd y gaeaf ofnadwy.

Yn nesaf at ddisgrifiad o'r hen gartref daw'r hen Gapel plaen a diaddurn; adeilad hollol fel tŷ, ond ei fod yn fwy helaeth; dau ddrws a dwy ffenestr yn y gornel, a grisiau'n esgyn iddo, a lle ysgwâr o'i flaen, ac ar un ochr i'r lle hwn glawdd wal gardd y Tŷ Capel, oddeutu dwy droedfedd o uchder, â cherrig llyfnion arni. Eisteddai dynion ifainc yn y fan hon i edrych ar y bobl yn myned i'r Capel, pwy, a pha bryd, a hefyd pa fodd уг oedd y rhyw fenywaidd yn gwisgo, a phwy oedd y brydferthaf. Yna, o dan yr un to yr oedd y Tŷ Capel. Lle pwysig y dyddiau hynny fyddai hwn, oblegid fe fyddai cymaint o ddieithriaid yn dyfod i aros yno: gweinidogion o'r Deheudir; y pregethwr a'i gyfaill; William Morris, Cilgerran, a'i gyfaill; John Jones, Blaenannerch, a'i gyfaill, ac felly ymlaen, yn aml iawn. Pan fyddai fy