fodolai rhwng Pen y Parc a'n cartref ni. Crefydd oedd y peth blaenaf gyda'n rhieni ni. Yr oedd popeth yn ddarostyngedig i'w gofynion hi. Y byd a dim pellach oedd ger bron ein cymdogion. Byddai gan grefydd y fath awdurdod nes gwneud i'r byd fod yn ddarostyngedig i'w gofynion ym mhob peth. Yn ein tŷ ni ar amser y ddyletswydd deuluaidd fe gaeid drws y siop, a chan nad oedd yr un masnachwr arall yn y gymdogaeth fe fyddai llu wedi ymgasglu i aros nes agorid y drws; a chan na fyddai fy nhad un amser mewn brys, ond yn cymryd ei amser, fe fyddai'n rhaid disgwyl yn hir weithiau! Hefyd fe gaeid y drws amser moddion yn y Capel, y Cyfarfod Gweddi, y Society a'r bregeth nosweithiau'r wythnos, ac fe fyddai nifer fawr yn disgwyl am eu negeseuau pan ddeuem allan o'r Capel, a'u ffordd ymhell, a'r noswaith feallai'n ddrycinog a thywyll. Ond fe ddaeth pawb i ddeall mai dyna oedd rheolau'r teulu, a pheidio â grwgnach.
Hefyd byddai'n rhaid i bob aelod o'r teulu fynd i'r Capel, ond un i warchod. Ni oddefid inni wledda ar y Saboth nac i goginio ond yr angenrheidiau. Byddai'n rhaid paratoi'r cwbl a ellid ddydd Sadwrn gogyfer â'r Saboth. Ni wneid un gwaith ar Ddydd yr Arglwydd ond yr hyn a oedd yn llwyr angenrheidiol. Ni welais erioed un o'r aelodau yn gafael mewn papur newydd; byddai'r gorchymyn yn cael ei roddi i'w gadw hyd nes byddai'r Saboth heibio. Hefyd ni oddefid i un llyfr gael ei ddarllen os na byddai'n llyfr crefyddol; ac ni welais erioed neb yn ysgrifennu