Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llythyr yn ein cartref ond ar achlysur o farwolaeth neu afiechyd. Hefyd ni oddefid inni wneud unrhyw sylwadau sarhaus ar y bregeth neu'r pregethwr ar ginio. Fe eisteddai fy mam fel brenhines ar ei gorsedd, ac fe gadwai'r fath awdurdod arnom bob amser. Gan fod fy nhad gymaint oddi cartref, arni hi y disgynnai'r awdurdod yn ei theulu, ac fe'i cadwodd ef hyd y diwedd. Ni feiddiai neb anufuddhau.

Yr oedd y Saboth yn ddiwrnod o orffwystra i'r gwasanaethyddion yn ogystal ag i'r plant. Ni oddefid golchi llestri ond a fyddai raid. Byddai'n rhaid paratoi nos Sadwrn i olchi cerrig y drws, glanhau oddeutu'r tân, a phob paratoad a ellid ei wneud. Yr oedd sancteiddrwydd i'r Arglwydd ar bob peth yn y tŷ, a pherffaith ddistawrwydd i ddarllen, a neb i siarad i'w rhwystro, nac un math o sŵn. Fe âi'r plant hynaf i'w gwahanol ystafelloedd i ddarllen, ac fe gymerai fy mam y plant ieuengaf oddeutu'r bwrdd ac fe ddangosai iddynt ddarluniau o gymeriadau'r Beibl, ac fe ddywedai eu hanes mewn modd mor dda nes argraffu eu cymeriadau ar eu meddyliau am eu hoes. Meddai allu neilltuol at hyn. Wedi dod o'r moddion nos Saboth byddem yn canu hymnau. Yr oedd gan fy mam lais fel organ ei hun, ond fy chwaer hynaf a'm brawd a fyddai'n deall y tonau. Yr oeddym oll yn gallu canu. Byddai fy nhad yn dod adref ar nos Saboth weithiau pan fyddai'n pregethu yn y capelydd cyfagos. Byddai golwg flinderus arno, a'm mam yn ei ddisgwyl; ac wedi paratoi pryd iddo, os byddai wedi cael oedfa lewyrchus fe fydd-