Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyfraith arno." Fe ddychrynnodd fy mam, a dychwelodd adref ar unwaith. Daeth fy nhad i chwilio amdani at ei gyfnither a dywedodd hithau ei bod wedi mynd adref. Fe gerddodd yntau ar ei hôl naw milltir o ffordd. Fe'i gwelodd yn wylo wrth y tân. "Beth sydd?" ebe fe. "O, Ann Williams a ddywedodd fod Hugh Humphreys am roddi cyfraith arnoch chwi yn achos rhyw lyfr," ebe hithau. "O, ni ddylsai fy nghyfnither ddweud wrthych," ebe yntau. "Ie," ebe fy mam, dywedodd hefyd, 'Beth sydd ar John Jones, deudwch? Ni fydd Dafydd Jones byth yn digio pobol." "O," ebe yntau. "Gwell pe gwnaech chwi dreio bod yn ofalus er mwyn y plant bach a minnau yn y dyfodol," ebe hithau. "O, Fanny, Fanny, nid oeddwn i'n bwriadu gwneud drwg i Humphreys na neb arall, ac ni feddyliais wrth fynd i'r pulpud am ddweud gair; ond os byddaf yn derbyn cenadwri oddi wrth Dduw i'w thraddodi, rhaid imi ei rhoddi. Y mae dynion ifainc yn darllen llyfrau sy'n cynnwys cyfeiliornadau ofnadwy dan rith gwirionedd; rhaid eu rhybuddio, ac ni pheidiaf byth â'i rhoddi er deall bod y gwirionedd yn cael ei guddio gan gelwyddau twyllodrus."