Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ATGOFION AM HEN SEIADAU TALYSARN

Yr oedd yn ddrycin gwynt a glaw, ond nid oedd y tywydd yn un rhwystr i'r hen chwiorydd a'r hen frodyr i ddyfod ynghyd i'r Cyfarfod Eglwysig. Yn yr Hen Gapel y cynhelid y Society hon. Wedi i un o'r brodyr ddarllen a gweddïo, fe aeth fy nhad allan o'r set fawr, lle'r eisteddai, i ofyn profiad. Aeth at yr hen ŵr William Roberts, Cae Engan. Dyma'r gŵr y daeth fy nhad i fod yn gyfrannog ag ef yn ei fargen pan ddaeth gyntaf i weithio i chwarel Talysarn. Cyflwynodd y swyddog fy nhad i William Roberts rhywbeth yn debyg i hyn, "Wel, dyma fi wedi dod â dyn dieithr i fod gyda chwi: gwnewch yn fawr ohono." Ysgydwodd y ddau law, a buont byth yn gyfeillion. Aeth fy nhad at yr hen ŵr gan ofyn iddo, "Wel, William Roberts, beth sydd gennych i'w ddweud wrthym heno?" "Dim, John Jones, dim, ond fy mod yn ofni 'y nghrefydd: 'rwyf wedi dod i'r penderfyniad mai rhagrith yw'r cwbl." Tybed, William Roberts? "Ie, ie." ebe yntau gan wylo'n hidl. "Faint sydd, William Roberts, er pan ddeuthum atoch i weithio i Allt y Fedw?" "Llawer iawn o flynyddoedd, John Jones." "Wel, William bach, yr oeddwn i yn tybied y pryd hwnnw eich bod yn ddyn duwiol, ac ni chefais le i un amheuaeth am eich crefydd o hynny hyd yn awr. Dyn yn ofni Duw oeddech bob amser er pan ddeuthum i'ch adnabod." "Ie, John Jones, ond ofn sydd arnaf mai rhagrith yw'r cwbl er hynny." "Wel, chwi