Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwi, frodyr a chwiorydd annwyl, mor greulon, mor ddigywilydd y mae ymosodiadau'r diafol wrth hen Gristion annwyl didwyll: ond o ran hynny yr oedd yn ddigon beiddgar i ymosod ar ein Gwaredwr ni. Dyna fel mae e'n ein poeni ni. Yr ydym yn ymdrechu gyda'n crefydd ac yntau yn edliw inni, ac yn dweud nad yw'r cwbl ond rhagrith."

Yr oedd pawb yn wylo erbyn hyn, ac yng nghanol y twrf a'r ochneidio fe roes yr hen bennill allan i'w ganu, "Fe genir yno am y Gwaed," etc., a'r hen Edward Williams â'i lais yn ddrylliau gan ei deimladau yn dechrau canu. Ac O! 'r fath ganu! Dim dechrau na diweddu gyda'n gilydd, ond slyrio ar ryw air, "Cenir, fe genir, ie, fe genir." "Ie," ebe un arall, "bydd canu wedi cyrraedd yno." "Ie," ebe un arall, "'does dim yn werth canu amdano yn y Nefoedd ond y Gwaed yn golchi beiau—dyna'n unig a fydd yn werth canu amdano byth." O'r diwedd dyma ychydig o dawelwch. Aeth fy nhad ar ei liniau ar ffrynt yr hen sêt fawr, ac fe ddechreuodd weddïo: "Fe fydd yn ddrwg gennym, ein Tad Nefol, weled hen bererinion yn cael eu cythruddo ac edliw eu beiau iddynt. Teimlo rhyw eiddigedd at Dy bobl Di, ein Hiesu annwyl, y mae'r cythruddwr -gweld eu cariad a'u sêl a'u hymlyniad wrthyt. O, mae'n werth dod i'th Dŷ ar noswaith ddrycinllyd fel hyn o bellter ffordd gan y pererinion. Beth sydd yn eu tynnu? Cariad at y Gwaredwr yr Hwn a'n carodd ni. Yr wyt Ti wedi tynnu'n serch arnat Dy hun, wyt yn wir. Fedr dim ei ddiffodd byth, byth."