Erbyn hyn ni allem glywed un gair-yr oedd orfoledd drwy'r lle i gyd. Yr oedd yr hen Fargiad Owen, Llidiart y Mynydd, yn f'ymyl. "O, fy Iesu annwyl, annwyl, annwyl, mi ddoist i farw drosto' ni, ac mi eist i'r nef hefyd. Er gwaeled ydym ni, mi ddown yn iach ryw ddiwrnod." Ann Morris, Tan'rallt, a waeddai, "Fe ddown ninnau i'r lan ryw ddiwrnod drwy rinwedd y Gwaed sy'n effeithiol i'n dwyn yn rhydd." A fy mam, "Fe rodd Ei fywyd drosom. Iesu Grist yn marw. Fe gaf finnau ymguddio byth yng nghysgod Ei Iawn a'i Aberth Ef." A Chatrin Michel, Tyn Lôn, yn neidio ac yn gweiddi, "Gogoniant am Drefn achub pechadur. Fe gostiodd yn ddrud; do, fe gostiodd ddirmyg a gwawd i'n Gwaredwr ni. Gogoniant byth am iddo'n cofio ni.'
Aeth fy nhad i'r tŷ, â'r moliannu'n parhau yn y Capel. Aeth i'w lyfrgell. Wedi inni roddi negeseuau yn y siop a'i chau, daeth fy nhad i lawr a dywedodd, Oni ddaeth eich mam i mewn eto? Ewch i'w hymofyn." Wedi perswadio llawer arni, daeth ac eisteddodd yn dawel. "Dowch, blant, at eich swper," ebe fy nhad. Wedi gorffen, meddai, "Gadewch inni ganu gyda'n gilydd." Yr oedd gan bob un ohonom leisiau da:
"Ar Galfari yng ngwres y dydd,
Y daeth y gwystl mawr yn rhydd"