Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

at once I heard a noise of a carriage, and it stood opposite the door; and someone came down, passed me, and went straight to my mother, who sat by the fire. He took hold of her hand and helped her to rise up, and helped her, passed me, into the carriage, and closed the door after her, and then went to the driver's seat and took the reins, and drove on to the river, that was close to the house." Mother asked, "What sort was the driver?" And he said, "I looked up at him, and his face was 'yn wyn ac yn wridog, yn rhagori ar ddeng mil.' Gwelais ei law yn gafael yn y reins' a daeth i'm meddwl, Dyna'r llaw a fu dan hoelion, ie, ie," a'i ddagrau yn lleithio ei lygaid bob amser wrth sôn am y breuddwyd hwn.

"Wel," ebe fy mam, "dyna'r achos imi anfon i'ch cyfarfod y mae eich mam wedi marw." "Pa bryd?" Dywedodd hithau yr awr, ac fe ddigwyddodd y munudau yr oedd fy Nhad yn ei gweled yn ei freuddwyd. Ac O! fel y teimlai hiraeth a chwithdod am ei fam. "Wel, rhaid inni fynd yno i'w chladdu; fe gaiff Ann a John fynd ar y poni, a chaiff Fanny ddod yn fy sgîl i." Ac felly y bu. Aethom tua chanol dydd o Dalysarn, ac i'r Llyndu i gysgu y noson gyda'i gyfnither, Mrs. Roberts; yna, oddeutu wyth o'r gloch, ar ôl borefwyd a dyletswydd, cychwynasom rhyngom a Hafod y Prysg ar hyd ffordd fawr Capel Curig. Wedi dyfod at y tŷ ffarm wrth ymyl y. ffordd disgynasom oddi ar y ceffyl i droi i fyny ar hyd llwybr heibio i Hafod y Prysg, ac i fyny drwy'r coed a cherrig a dwfr (yr wyf wedi anghofio ei enw)