Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'm tad yn tywys y ceffyl. Daethom i ben y mynydd, â Moel Siabod yn ymddangos fel yr Wyddfa o'n blaen. Gofynnodd a oeddwn wedi blino. "Nac wyf," meddwn i. "Wel, mi gerddwn nes dod i le cyfleus i farchogaeth eto . . . nid aeth i ddaear erioed ddynes mwy duwiol na dy nain; ac nid aeth i'r nefoedd erioed Gristion mwy gonest a chywir na hi... O, ei bywyd distaw yn byw'n wastad mewn cymdeithas â Duw." "Yna," meddai, "fe allai y gallwn fyned ar gefn y ceffyl yn awr," ac fe'm cododd i fyny, ac fe ddaeth ef ei hun wedi hynny, ac ebe fe wrthyf, "Nid wyf fi ddim am wneud brys i fyned yno; bydd arnynt eisiau imi bregethu, ac ni allaf fi ddim ar ŵylnos fy mam; fe gaiff Dafydd fy mrawd wneud; y mae'n ieuengach na mi."

Hefyd yr wyf yn cofio wrth ddyfod at yr hen gastell, wedi teithio milltiroedd o fynydd, i mi glywed sŵn canu gyda'r awel o hen dŷ Tanycastell; ac O, fel y teimlai fy nhad wrth eu clywed. Aethom ymlaen, ac yn ddistaw fe aeth i dŷ fy mherthynas i aros dipyn, ac aeth i mewn i'r hen gartref i'r hen simdde fawr—ewyrth David Jones a f'ewyrth Richard ar un ochr, a'm tad ac Elias Owen yr ochr arall. Fe ddechreuodd dadl rhwng y pedwar ar ôl swper, ac yr wyf yn cofio f'ewyrth David Jones yn dweud wrth fy nhad, "Waeth iti dewi, John, y mae Richard wedi dy guro di o ddigon." "O nag yw, ebe yntau dan wenu, "rhaid inni gael myned yn ddyfnach i'r cwestiwn, Dafydd; yr wyt ti'n barnu'n rhy fuan, wel' di." Ac ebe f'ewyrth Dafydd, "Mae