Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

môr mawr i gael golwg ar dy fedd di, John annwyl. A wnei di ddweud gair wrthyf fi, John bach? Dim ond gair, John? O, y llais hwnnw a oedd yn arfer ysgwyd Cymru gan ei ddylanwadau nerthol gyda'i beroriaeth ddigyffelyb; y llais a fu'n cyhoeddi i bechaduriaid fod modd cadw enaid a gollasid drwy lawn y Groes. O, fe fyddet yn cymell dy Waredwr mor swynol, ac mor effeithiol. O, John annwyl, dywed air wrthyf. . . dim ond un gair."

Erbyn hyn yr oedd ar ei liniau ar y ddaear, ac aeth ei gyfaill ato a dywedodd wrtho, "Fe fyddai'n well inni fyned adref, Mr. Jones." Yr oedd golwg annaturiol a gwelw ar ei wyneb, a rhyw syndod ofnadwy yn ei lygaid. Yr oedd ar y cyfaill arswyd rhag i rywbeth ddigwydd iddo. "A ddowch chwi, Mr. Jones?" ebr ef drachefn. "Wel," meddai, gan godi oddi ar ei liniau, " dyma fi'n myned i ffwrdd heb un gair! O, fy mrawd annwyl, ffarwel hyd ddydd yr Atgyfodiad! Fe gyfarfyddwn â'n gilydd yr un foment ar ganiad yr utgorn—ti o'r fan yma a minnau o gyfandir mawr yr America: yr un funud, John! le, ac fe gawn weld ein Gwaredwr ar yr un amrantiad. O, gresyn na chawswn air gennyt, ie, dim ond un gair, John, fy mrawd."

Tybiodd y cyfaill fod yn rhaid rhoddi ychydig o orfodaeth i'w symud. Gafaelodd yn ei fraich ac arweiniodd ef allan yn ddistaw . . . dim ond ochneidiau dwys a thorcalonnus. Dywedai fy nghefnder mai dyna'r olygfa fwyaf torcalonnus a welodd erioed, ac nac anghofia ef mohoni byth.