Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YMWELIAD F'EWYRTH WILLIAM JONES O'R AMERICA A MYNWENT LLANLLYFNI

(Adroddwyd yr hanes wrthyf gan fy nghefnder, Mr. Thomas Jones, Llanllyfni, a fu'n gwmni i'm hewyrth ar yr amgylchiad.)

ADDAWODD f'ewyrth ddyfod i Lanllyfni i roddi pregeth ar noson waith pan ar ei ymweliad â Chymru. Er mwyn iddo gael cyfleustra i ymweled â bedd fy nhad, daeth Thomas Jones i'w ymofyn a gofalu amdano. Aeth y ddau'n hamddenol dros y crawiau, a thros yr hen lwybrau y cerddodd f'ewyrth lawer ar hyd-ddynt pan oedd yn byw gyda'm tad a'm mam yn Nhalysarn. Gwelai fy nghefnder fod prudd-der yn ymdaenu dros ei wyneb pan ddaeth i olwg hen fynwent Llanllyfni, ac yn hytrach na mynd i mewn iddi perswadiodd f'ewyrth ef i ddyfod gydag ef adref i gael cwpaned o de yn gyntaf. Felly a fu; ac yna fe ddaeth y ddau i lawr y pentref yn araf. Yr oedd f'ewyrth yn hen a gwan. Aethant i mewn i'r fynwent. Cerddodd Thomas Jones ar y llwybr hyd nes daeth at y gofgolofn; safodd yno, ac meddai, "Dyma fedd eich brawd, Mr. Jones." "Ai e," meddai, â'i wefus yn crynu a'i ddagrau'n treiglo i lawr ei wyneb, "a dyma fedd John fy mrawd! Safai, fel pe bai wedi synnu, am beth amser yn ddistaw berffaith. Yna ciliodd Thomas Jones ychydig; ac yna fe glywodd sŵn llais f'ewyrth yn dweud mewn llef ddolefus: "Wel, wel, John annwyl, a dyma lle'r wyt ynddo, a minnau wedi dod dros y