Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Williams—"Richard Williams bach" y gelwid ef gennym. Yr oedd hwn yn ddiffygiol o'r peth mawr a oedd yn Elis Jones, sef amynedd. Os byddai iddo ddweud mwy na dwy waith am fod yn ddistaw wrth y plant a oedd o dan ei ofal, fe ddefnyddiai ddalennau rhyw hen lyfr a gosodai hwynt mewn modd effeithiol ar ochr wyneb neu ben y troseddwr fel y byddai sŵn drwy'r holl ysgol, ac y byddai gosteg am foment drwy'r lle; a deallai pawb yn fuan mai Richard Williams oedd yn ceryddu'r anufudd. Ie, gwelid tad neu fam y troseddwr yn edrych yn eithaf bodlon i'r gosb; ac ni feiddient rwgnach, oblegid yr oeddynt yn gwybod fod yr hen ŵr yn eithaf match iddynt mewn moment. Yr oedd ei gywirdeb mor ogoneddus ac amlwg i bawb; felly Elis Jones a Dafydd Elis.