Daeth bore'r Seiat Fawr, ac yr oedd adeilad o dan ei sang. Os wyf yn cofio'n iawn, cynhelid y Seiat yn yr "Hengler's Circus." Eisteddai'r hen enwogion annwyl ar yr esgynlawr—enwogion sydd wedi myned i'w Cartref gogoneddus ers blynyddoedd bellach.
Eisteddai William Ellis ar y gadair y tu ôl i'r gadair yr eisteddai fy nhad arni; ac wedi agor y cyfarfod drwy i ddau neu dri ddweud gair, gofynnwyd am air gan William Ellis gan un o'r gweinidogion. Ond gwrthododd; ac er gofyn eilwaith gwrthod a wnaeth. Fodd bynnag, daeth Roger Edwards, 'rwy'n meddwl, at fy nhad, a dywedodd, John Jones, gofynnwch chwi iddo." Ac fe droes fy nhad ei ben yn ôl ac edrychodd yn y fath fodd fel yr ufuddhaodd ar unwaith. "William Ellis, codwch i ddweud gair ar gais y brodyr yma."
Wele'r hen ŵr i fyny, â'i ffon yn ei law, gyda golwg hen-ffasiwn arno. "Dowch ymlaen yma," ebe fy nhad. Daeth, a safodd yn ymyl ei gadair, a dywedodd, "Wn i ddim beth i'w ddweud mewn lle fel hyn." Yna daeth llef oddi ar yr oriel, "Uwch, uwch." Yna dechreuodd yn gliriach. "Wn i ddim. beth i'w ddweud mewn lle fel hyn. Y mae golwg urddasol a boneddigaidd iawn arnoch i gyd yma. Peth gwahanol iawn i'r hyn a welir yn y wlad acw. Y mae yn ymyl fy nghartref i foneddiges urddasol iawn yn trigiannu, ac yr ydym ein dau yn bur gyfeillgar; a phan fyddwn yn cyfarfod ar y ffordd, ymgomiwn yn gyfeillgar iawn. Ond weithiau bydd