Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

boneddigesau eraill ar ymweliad â hi, a phan welaf hi y pryd hynny ni fyddaf yn cymryd un sylw ohoni mwy na thynnu fy het iddi a'i phasio. Felly, foneddigion, teimlaf yn anghymwys i'ch annerch chwi yma heddiw. Yr ydych yn edrych yn foneddigaidd iawn, gyda golwg urddasol arnoch."

Teyrnasai distawrwydd, ac ymhen ychydig cododd ei olygon i fyny drachefn gan ddywedyd, "Ie, ie; ond wyddoch chwi, frodyr a chwiorydd annwyl, nid yw hynyna ond gwahaniaeth yn ein hallanolion.' A dyma ddechrau mynd i hwyl wedyn:

Rhaid cael yr un Drefn i gadw pob un ohonom. Nid oes un ffordd mwy respectable i'ch cadw chwi, foneddigion, nag i gadw'r hen William Ellis. Ie, yr un Gwaed raid ei gael i'n golchi, yr un Aberth, yr un lawn. 'Does yr un arall i'w gael, nac angen amdano ychwaith.

Wedi hyn nid oedd yn bosibl clywed yr un gair a ddywedai mwyach, gan y boddid ei lais gan yr Amenau o bob man; a'r gynulleidfa yn ysgwyd fel cae gwenith o flaen y gwynt. Wylai Mr. Rees fel baban, tra mwynhâi ac anwylai fy nhad ei hen gyfaill. Yr oedd yr olygfa yn wir ogoneddus, ac yr oedd y gynulleidfa wedi ei llanw ar yr olwg a gawsai ar ogoniant trefn achub pechadur.