Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn annifyr i ddyn fod yn agos ato. Ond yr oedd fy nhad yn gyfarwydd â holl wendidau Siôn Gruffydd, ac nid oedd wedi bod ar ôl y tro hwn o ddyfod â blewyn o faco ym mhoced ei wasgod. Gwyddai y buasai hynny yn diwallu anghenion yr hen ŵr, ac y deuai ag of i'w hwyl arferol.

Wedi ei oddiweddyd yn y cac gofynnodd fy nhad iddo: "Wel, Siôn Gruffydd, sut mae hi'n dod ymlaen yma?" Gwelid ar unwaith fod Siôn Gruffydd wedi ei gael ei hun o fod yn y cyflwr anobeithiol o fod heb faco, a dywedodd â'i olwg yn sarrug:

"Go lew, Mr. Jones."

Yna aeth fy nhad i weled y fuwch, ac wrth ddychwelyd cyfarchodd Siôn Gruffydd fel hyn:

"Siôn Gruffydd, welwch chi yr awyr lâs, serennog uwchben?"

"Gwelaf siŵr, John Jones," ebe'r hen ŵr yn ddigon difater.

"Edrychwch ar y seren fawr, olau acw," ebe fy nhad drachefn.

Yna cododd Siôn ei ben am funud ac yna ailymaflodd yn ei waith. Gwelodd fy nhad fod golwg anfoddog iawn ar Siôn Gruffydd, ac ebe fe wrtho:

"Fe wyddoch chi, Siôn Gruffydd, mai yng ngolau'r seren yna y mae'r morwyr arwrol yn llywio eu llestrau ar hyd wyneb y môr mawr.'

"O, felly'n wir," meddai Siôn yn ffurfiol. "A welwch chi'r tair seren yna?" ebe fy nhad.

Gwelaf," ebe yntau, ond prin yr edrychai. "Wel," meddai fy nhad, "dyna Dair Llathen